Pwyllgor Cyllid

FIN(4) 16-12 – Papur 4

 

 

 

 

 

Dyraniadau Cyllideb

Pwyllgor Cyllid

 

 

Cyflwyniad gan Goleg Glannau Dyfrdwy â ColegauCymru

 

 

Description: ColegauCymru colour.JPG

 

Hydref 2012

 

 

 

Cyflwyniad

 

1.    Mae Coleg Glannau Dyfrdwy yn croesawu’r cyfle i ddarparu tystiolaeth lafar i’r Pwyllgor Cyllid ar 17 Hydref 2012, ac yn gwneud hynny gyda chefnogaeth  ColegauCymru.

 

2.    Mae Coleg Glannau Dyfrdwy yn un o’r colegau mwyaf, a mwyaf llwyddiannus yng Nghymru gyda phroffil rhagorol gan Estyn am gyflwyniad addysg bellach a dysgu yn y gweithle. Yn 2007 ef oedd y coleg cyntaf yn y DU i ennill Graddau 1 am ei holl ddarpariaeth, a llwyddodd yn 2012 i gael yr adroddiad arolwg gorau gan Estyn. Mae wedi cyflawni hyn ochr yn ochr â pherfformiad ariannol cyson gryf, sydd wedi cael ei ddefnyddio i fuddsoddi yn isadeiledd y coleg ac i gefnogi dau uniad. Ym mis Awst 2013 mae disgwyl i Goleg Glannau Dyfrdwy uno a Choleg Iâl.

 

3.    Mae ColegauCymru yn cynrychioli’r 17 coleg addysg bellach a dau sefydliad AB yng Nghymru[1].   Mae’n cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i siapio a chefnogi gweithrediad polisi. Cydnabuwyd ei swyddogaeth aeddfed a rhagweithiol o fewn y Papur Gwyn ar Addysg Bellach ac Addysg Uwch a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

 

4.    Lluniwyd y papur yma gan Goleg Glannau Dyfrdwy â ColegauCymru mewn ymateb i’r dyraniadau cyllideb ar gyfer 2013-14. Mae rhan gyntaf y papur yn adlewyrchu barn ColegauCymru fel yr amlinellwyd mewn llythyr i Jocelyn Davies AC, cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar 21 Medi 2012. Mae’r safbwyntiau hyn wedi eu cryfhau gan brofiad Coleg Glannau Dyfrdwy, a fernir yn annibynnol i fod yn un o’r colegau mwyaf llwyddiannus yng Nghymru.

 

 

Rhai sylwadau cyffredinol

 

5.    Er gwaethaf y rhagolwg economaidd hynod heriol, barn gyffredinol ColegauCymru yw ein bod ni’n cael y cyfle i ailadeiladu ein dyfodol diwydiannol yn seiliedig ar weithlu fwyfwy medrus gyda darparwyr dysgu yn ymateb i anghenion diwydiant a chyflogwyr yn gyffredinol. Yn ein barn ni mae nifer o ffactorau allweddol y mae’n rhaid i’r Gyllideb fynd i’r afael a hwy.

 

Cynnal buddsoddiad mewn allbynnau dysgu o ansawdd

6.    Mae’r brif nod yma yn rhywbeth sy’n cael ei adlewyrchu’n haeddiannol yn Llythyr Blaenoriaethau’r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ar gyfer 2012/13 lle mae’n ei gwneud hi’n hanfodol i golegau wella sgiliau eu dysgwyr i lefel 3 ac uwch. Mae’r flaenoriaeth yma wedi ei gefnogi trwy ddyraniadau i golegau yn 2012/13 o gynnydd ariannol o 2.5% a rhagwelir codiad o 1% yn 2013/14.  Mae hyn yn dangos ymrwymiad y Gweinidog i fuddsoddi mewn sectorau sy’n cyflwyno’r targedau allweddol a amlinellwyd yn y Rhaglen ar gyfer Llywodraeth yn 2011.

7.    Mae Colegau wedi ymateb i’r buddsoddiad yma gyda phroffil ansawdd cynyddol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae ein hymateb i’r Papur Gwyn ar Addysg Bellach ac Addysg Uwch yn nodi

 

“Mae Prif Arolygydd Estyn yn ei hadroddiadau blynyddol yn fynych wedi gwneud sylwadau cadarnhaol  am berfformiad colegau AB. Bu i Adroddiadau Canlyniadau Dysgwyr blynyddol yr Adran Addysg a Sgiliau ar gyfer 2010/11 ddangos bod 90% o fyfyrwyr yn cwblhau eu cyrsiau mewn colegau AB ac o’r rhain bod 90% yn cyflawni eu cymwysterau – gan wneud cyfraddau llwyddiant cyffredinol o 81%. Gellir cymharu hyn a chwblhad llwyddiannus o 40% yn 2000/01. Nid yw colegau fodd bynnag yn hunanfodlon gyda’r cynnydd aruthrol hwn ac maent yn ceisio gwella yn barhaus”. Mae buddsoddiad mewn colegau yn dwyn budd clir ar ddysgu o ansawdd.

 

 

Buddsoddiad mewn sgiliau yn y ‘Ras i’r Brig’ byd-eang

8.    Mae cynnal y buddsoddiad cyhoeddus hwn mewn sgiliau yn y tymor canolog i hir yn hanfodol. Mae addysg alwedigaethol a gyflwynir gan golegau yn gwneud cyfraniad pwysig ar gyfer cwrdd ag amcanion agenda sgiliau uchelgeisiol Cymru.

 

9.    Mae’r angen i ddatblygu sylfaen sgiliau ar gyfer pwyslais newydd ar dwf diwydiannol a’r diwydiant adeiladu yn cael ei gefnogi gan dystiolaeth gadarn ar alw am lafur yng Nghymru i fyny i 2020. Yn ôl amcangyfrifon diweddar AdroddiadDyfodol Gwaith Comisiwn y DU ar Gyflogaeth a Sgiliau ‘ ‘ Cymru yw’r unig genedl/rhanbarth [yn y DU] lle mae disgwyl i alwedigaethau crefftau medrus dyfu mewn cyflogaeth ac nid dirywio” a disgwyl i dwf cyflogaeth yng Nghymru fod ‘uwchlaw cyfartaledd y DU…….ar gyfer y sector cynradd a chyfleustodau, adeiladu a masnach, llety a chludiant’. [2] Mae hyn yn rhoi ysgogiad penodol i fuddsoddiad wedi canolbwyntio ar wella sylfaen sgiliau galwedigaethol hanfodol Cymru.

 

 

10. Mae’r ysgogiad yma’n cael ei gefnogi gan rhai symudiadau arwyddocaol a all fod yn digwydd yn yr economi fyd-eang ehangach. Bu i’r Economist ar 21 Ebrill 2012 roi sylw arbennig i’r hyn y mae’n ei alw yn ‘trydydd chwyldro diwydiannol’ ar gyfer gweithgynhyrchu ac arloesedd. Nodwyd “bod yr olwyn bron yn dod yn ôl yn grwn’ gyda rhai swyddi gweithgynhyrchu tra medrus yn dod nôl i’r Gorllewin o Asia yn y ddegawd nesaf o ganlyniad i gostau llafur ac ynni uwch a’r gwariant cludiant ychwanegol yn ymwneud a chael cynhyrchion nôl i farchnadoedd Gorllewinol.

 

11. Mae Cymru angen gweithlu medrus er mwyn sicrhau ein bod ni’n gallu gwneud y mwyaf o unrhyw symudiad o’r fath, mewn unrhyw ‘ras i’r brig’ y gadwyn gwerth mewn cynhyrchion a gwasanaethau. Bydd angen pobl fedrus a hyblyg gyda sgiliau lefel canolradd ac uwch yn unol â Llythyr Blaenoriaethau AB Y Gweinidog.

 

12. Mae colegau mewn sefyllfa dda iawn i ymateb i’r agenda sgiliau lefel canolradd ac uchel yma, gan eu bod yn cyflwyno amrediad o raglenni o lefel mynediad sgiliau sylfaenol trwodd i ddarpariaeth lefel gradd. Felly mae colegau’n beiriannau cyflogadwyedd a dilyniant – yn rhoi hwb i gynhyrchiant gweithlu Cymru.

 

 

Buddsoddiad mewn chwaraewyr economaidd pwerus sy’n ymgysylltu’n uniongyrchol â chyflogwyr

 

13. Mae Colegau yng Nghymru yn chwaraewyr economaidd canolog. Bu i Lywodraeth Cymru gomisiynu Prifysgol Caerdydd ³ i ymchwilio mewn i effaith economaidd gweithgaredd pwrcasu sefydliadau AB a’u staff a myfyrwyr. Bu i ymchwil wedi ei gomisiynu gan Lywodraeth yr Alban ddangos y dychweliad ar fuddsoddiad mewn cymwysterau. Mae cyfuno’r ddau ddangosydd yma (a thybio bod colegau AB yng Nghymru yn eithaf tebyg i golegau AB yn yr Alban) yn dangos  bod colegau AB yng Nghymru yn cyfrannu yn fras £1.4bn i economi Cymru; ffigwr tebyg i’r hyn a gynhyrchir gan sefydliadau AU. Bydd y ffigwr yma wedi cynyddu’n sylweddol ers dyddiad yr astudiaeth.

 

14. Yn ychwanegol at y cyfraniadau economaidd uniongyrchol a ddaeth o ganlyniad i fuddsoddiad mewn AB, mae astudiaethau hefyd wedi arddangos manteision ychwanegol i ddysgwyr. Er enghraifft mae astudiaeth yng Nghanada  wedi dangos bod myfyrwyr yn elwa o enillion cynyddol a gwell ffyrdd o fyw, trethdalwyr yn elwa o economi ehangach a chostau cymdeithasol llai; a chymdeithas yn gyffredinol yn elwa o gyfleoedd swyddi a buddsoddiad cynyddol, refeniw busnes uwch, gwell argaeledd o arian cyhoeddus a lleddfu baich trethi.4 Mae’r gwelliannau o ran cynhyrchiant o golegau’n gwella sgiliau a’u gwaith uniongyrchol â chyflogwyr yn ychwanegu budd ychwanegol aruthrol i’r economi sy’n fwy anodd ei fesur – ond sydd hyd yn oed mwy pwysig nag allbwn economaidd uniongyrchol colegau.

 

 

15. Mae gwaith gyda busnesau wedi parhau i fod yn flaenoriaeth ganolog i’r sector dros sawl blwyddyn. Ail-gadarnhawyd hyn yn Llythyr Blaenoriaethau’r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau5 oedd yn annog colegau i fod y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyflogwyr. Mae ColegauCymru wedi amcangyfrif bod colegau’n ymgysylltu a thros 25,000 o fusnesau pob blwyddyn i weithio ar ddatblygu cyfres o gynhyrchion wedi eu cynllunio i gwrdd ag anghenion cyflogwyr yn y sector breifat a chyhoeddus yng Nghymru. Mae hyn yn amrywio o waith ar brentisiaethau (pob lefel), rhaglenni hyfforddiant wedi eu teilwra i staff, a gwaith ar arloesi cynhyrchion a chyngor cyffredinol ar anghenion sgiliau’r dyfodol eu gweithlu. Mae colegau’n gyson yn ailddyblu eu hymdrechion er mwyn sicrhau bod eu gwaith gyda busnesau yn chwim, ar flaen y gad ac yn addas i anghenion cyflogwyr unigol. Mae hyn yn nod ganolog i’r holl golegau yng Nghymru.

 

Cwestiynau Allweddol

 

(i)            Gan edrych ar y dyraniadau cyllideb ar gyfer 2013-14 oes gennych chi unrhyw bryderon o safbwynt strategol cyffredinol?

(ii)          Gan edrych ar y dyraniadau cyllideb ar gyfer 2013-14 oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch unrhyw feysydd penodol?

 

 

16. Mae’r gyllideb ddrafft ar gyfer 2013-14 yn nodi y bydd addysg bellach a dosbarthiadau chweched dosbarth yn derbyn £455.7m. Nid yw hi’n glir eto pa gyfran a ddyrennir i golegau AB

 

17. Fel y nodwyd ym mharagraff 6 uchod bu i’r llythyr dyraniadau cyllido a anfonwyd i golegau addo cynnydd ariannol o 1% yn 2013/146. Mae colegau’n cynllunio ar y sail y bydd yr addewid yma’n cael ei hanrhydeddu. Nid yw hyn yn gynnydd mewn gwirionedd. Roedd chwyddiant yn Awst 2012 yn 2.5% a bydd rhaid i golegau sicrhau fod arbedion effeithlonrwydd pellach mewn lle.

 

 

18. Yn y flwyddyn gyfredol 2012/13 (mae blwyddyn ariannol y coleg yn rhedeg o Awst i Orffennaf) mae dyraniadau fel a ganlyn: £285.7m arian rheolaidd, £8.7m Llwybrau i Brentisiaeth a £17.5m Sgiliau Oedolion – cyfanswm o £311.9m.  Mae’n hanfodol bod y cwantwm yn cael ei gynnal o 2013 ymlaen, hyd yn oed os oes newidiadau blaenoriaeth o fewn y ffrydiau blaenoriaeth ar wahân

 

19. I Goleg Glannau Dyfrdwy’r dyraniadau ar gyfer 2012/13 yw £19.5m ar gyfer arian rheolaidd, £0.7m ar gyfer Ll i B, a £1.3m i Sgiliau Oedolion – cyfanswm o  £21.5m.  Yn ychwanegol at hyn, mae Coleg Glannau Dyfrdwy wedi sicrhau £14.5m pellach o ffynonellau eraill.

 

 

20. Mae’r colegau hefyd yn derbyn cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflwyno dysgu yn y gweithle. Mae hyn trwy gynigion cystadleuol a chyllid yn cael ei dderbyn trwy gytundeb ac nid grant. Y cyfanswm a dderbyniwyd gan golegau yn 2009/10 (y ffigyrau diweddaraf) oedd £28m. Derbyniodd Coleg Glannau Dyfrdwy £5.7m.

 

21. Mae’r tabl isod yn dangos dadansoddiad o incwm a gwariant ar gyfer colegau AB yn 2009/10 (y ffigyrau diweddaraf). Mae colegau ar gyfartaledd yn denu oddeutu 20% ar ben cyllid Llywodraeth Cymru. Dros y deg mlynedd diwethaf ar brisiau heddiw mae colegau wedi creu oddeutu £1 biliwn. Cynhyrchir yr incwm yma trwy adennill costau llawn cyrsiau ar gyfer busnes, cyflwyno prosiectau, ymgynghori, recriwtio rhyngwladol, bwytai a ffreuturiau, siopau fferm, cyfleusterau hamdden a ffynonellau eraill.

 

22. Mae’n bwysig bod colegau AB yn parhau i gael yr hyblygrwydd i greu incwm ychwanegol. Mae gwargedau’n cael eu defnyddio i fuddsoddi mewn adeiladau ac offer, gwella cyfleusterau a sybsideiddio darpariaeth o fewn y coleg. Er enghraifft, Coleg Glannau Dyfrdwy sy’n creu oddeutu 23% o’i incwm o ffynonellau allanol ac yn gosod targed gwarged blynyddol o 3%  o incwm. Mae’r pwynt olaf yn gyson a nifer o golegau eraill ar draws y DG. Dros yr wyth mlynedd diwethaf mae hyn wedi ei gyflawni gyda gwarged cyfartalog o 4% yn cael ei gyflawni sy’n dod i gyfanswm o £8.5m dros y cyfnod yma. Mae hyn wedi ei fuddsoddi; ynghyd a grantiau cyfalaf a benthyciad i wella’r ystad ac isadeilededd yn sylweddol ar yr holl gampysau ar draws Gogledd Ddwyrain Cymru.

 

Incwm a Gwariant Sector AB 2009/10

Incwm

           £000

      % o’r cyfanswm

Cyllid LlC (yn cynnwys DYG)

      342,703

       79.5

Ffioedd hyfforddi a chytundebau addysg

        46,715

       10.8

Incwm arall

        40,980 

         9.5

Incwm Buddsoddi

             557

         0.1

Cyfanswm Incwm

     430,956

        100.0

Gwariant

 

 

Staff

       271,431

        64.3

Costau gweithredu eraill

      128,774

        30.5

Dibrisiant

        20,395

         4.8

Llog sy’n daladwy

         1,270

         0.3

Cyfanswm Gwariant

      421,870

        100

 

23. Mae colegau wedi bod yn gwneud arbedion effeithlonrwydd. Mae un ar ddeg uniad wedi cymryd lle neu’n mynd rhagddynt. Bu i arolwg gan ColegauCymru yn  2011 nodi bod yr uniadau oedd wedi cymryd lle bryd hynny wedi arbed yn fras swm o £500,000 y coleg y flwyddyn, yn bennaf mewn rheolaeth, swyddogaethau gweinyddol a systemau. Bu i’r un arolwg ddangos bod colegau wedi gwneud arbedion cyfartalog o tua £160,000 y coleg y flwyddyn trwy wasanaethau rhanedig.7  Mae Coleg Glannau Dyfrdwy wedi cynnal ei berfformiad ariannol sector arweiniol er gwaethaf uno gyda Choleg Garddwriaeth Cymru (2009) a Choleg Llysfasi (2010) gan yr etifeddwyd y ddau gyda diffygion ariannol a rhagamcaniadau negyddol ar gyfer y dyfodol.

24. Mae hyn yn amlygu’r manteision y gellir ei gyflawni drwy ailsefydlu effeithiol a strategol o isadeiledd gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru – gwnaed arbedion, ni chollwyd unrhyw swyddi, mae cyrsiau a llefydd i ddysgwyr wedi eu hehangu gyda mwy o arian yn cael ei wario ar y rheng flaen ac mae buddsoddiad wedi cymryd lle. Mae angen i sefydliadau a sectorau sy’n cofleidio newid yn y ffordd yma gael eu cydnabod a ni ddylai ariannu’r dyfodol gosbi sefydliadau sy’n cael eu rheoli’n effeithiol.

 

25. Mae Colegau mewn trafodaethau ar hyn o bryd a’r undebau llafur ar y cyd ar gyfer cyflwyno cytundeb cyffredin. Mae’r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau wedi nodi y dylai unrhyw gytundeb cyffredinol newydd fod yn niwtral ran cost ar gyfer y sector AB cyfan. Bydd rhai colegau’n amlwg yn ennillwyr ac eraill yn colli allan wrth i gostau staff gynyddu mewn rhai a lleihau mewn eraill. Mae’n debygol y bydd unrhyw newidiadau yn cael eu cyflwyno’n raddol dros gyfnod o dair blynedd i leihau unrhyw effaith. Mae sector AB modern a deinamig yng Nghymru angen cytundebau cyflogaeth fodern a deinamig. Bydd hyn yn sicrhau swyddi, gwella gwasanaethau i ddysgwyr a chwarae rhan allweddol mewn gwella perfformiad economaidd Cymru.

 

 

26. Mae colegau hefyd yn debygol o wynebu costau cynyddol o ganlyniad i gynnydd mewn cyfraniadau cyflogwyr i gynllun pensiwn athrawon a chynlluniau pensiwn llywodraeth leol amrywiol. Yn yr achos diwethaf gall cyfraniadau cyflogwyr eisoes fod dros 20% o’r cyflogau. Ochr yn ochr â hyn, mae rhagdybiaethau cynllunio ar gyfer y blynyddoedd i ddod yn tybio y bydd cyfyngiadau cyflogau parhaus o fewn y sector gyhoeddus.

 

 

27.Mae’r Papur Gwyn ar addysg bellach ac addysg uwch yn cefnogi colegau i gael hyblygrwydd ariannol cynyddol o fewn cyd-destun cyffredinol polisiau Llywodraeth Cymru. Mae colegau wedi croesawu’r cylch cyllido tair blynedd sydd wedi rhedeg o 2011/12 i 2013/14. Mae hyn wedi gwella gallu’r coleg i gynllunio a gwneud penderfyniadau hirach er budd y dysgwyr. Yn flaenorol roedd y dyraniadau i bob coleg yn aml yn amrywio flwyddyn ar ôl blwyddyn gydag ychydig o amser i gynllunio’n effeithiol. Byddem yn annog Llywodraeth Cymru i barhau gyda chynllun tair blynedd bellach i ddilyn ymlaen ar ôl 2013/14.

 

28. Mae galw mawr am gyllid cyfalaf fel bod colegau’n gallu dod a’u hadeiladau i fyny i safon yr 21ain ganrif. Cydnabyddir bod swmp y buddsoddiad yn canolbwyntio ar ysgolion ond mae colegau wedi rhoi amrediad eang o gynigion uchelgeisiol ymlaen fydd angen eu hariannu yn yr hir dymor.

 

 

(iii)         Beth ydych chi’n feddwl fydd effaith cynigion cyllideb ddrafft 2013-14 ar eich gallu i gyflwyno gwasanaethau a chwrdd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru?

 

29. Bu i lythyr y Gweinidog Addysg osod pedair prif flaenoriaeth ar gyfer y sector yn 2012/13 a 2013/14.8 Y rhain oedd

 

·           Dilyniant a chefnogaeth i ddysgwyr: uchafu llwybrau dilyniant i lefel 3 ag uwch, hyfforddiant a chyflogaeth

 

·           Codi safonau a chyflawniad: cyflwyno gwelliannau mewn safonau a pherfformiad, yn arbennig llythrennedd a rhifedd dysgwyr

 

·           Ymgysylltiad cyflogwyr a menter; ymgysylltiad effeithiol a chyflogwyr a datblygu diwylliant o fentergarwch

 

·           Datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg; cynyddu argaeledd ac annog dysgu cyfrwng Cymraeg/dwyieithog

 

 

30. Mae colegau’n ymateb yn gadarnhaol i’r blaenoriaethau allweddol yma ac yn ceisio adeiladu ar eu cynnig lefel 3 i ddysgwyr. Byddant yn parhau i godi safonau. Ar hyn o bryd ar gyfartaledd mae 90% o ddysgwyr yn cwblhau eu cyrsiau a 90% yn cyflawni eu cymwysterau. Bydd colegau’n gweithio’n galed i gynyddu eu cyfradd cwblhau lwyddiannus o 81%. Mae perfformiad presennol Coleg Glannau Dyfrdwy yn 86%.

 

31. Mae ymgysylltiad cyflogwyr i golegau’n fusnes craidd. Bydd colegau’n mynd ati i ddatblygu ymhellach eu cysylltiadau â chyflogwyr lleol a cheisio bod eu pwynt cyswllt cyntaf. Mae colegau wedi croesawu buddsoddiad mewn hyrwyddwyr dwyieithrwydd ac yn cydnabod y sialens hir dymor o gynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog. Maent yn cydnabod bod datblygu staff sy’n gymwys i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn rhywbeth na ellir ei gyflawni dros nos ac y bydd angen buddsoddiad cynaliadwy yn y dyfodol rhagweladwy. 

 

 

32. Mae’n debygol unwaith y bydd yr uniadau a gynlluniwyd wedi eu cwblhau erbyn Awst 2013 y bydd y ffocws i ffwrdd o strwythurau ac yn hytrach ar ganolbwyntio mwy ar wella addysgu a dysgu.

 

 

 

(iv)         Cymorth pellach i’r Pwyllgor

 

33. I grynhoi rydym yn croesawu’r buddsoddiad parhaus mewn sgiliau yng Nghymru. Rydym yn cydnabod yr hinsawdd ariannol anodd y mae colegau’n gorfod gweithredu ynddo ac mae’r papur yma’n pwyntio at rai meysydd lle mae pwysau ar y colegau,  fel yr angen i wneud arbedion effeithlonrwydd yng ngoleuni cynnydd ariannol islaw chwyddiant.


 

 

34. Mae buddsoddiad cynaliadwy mewn colegau AB yn darparu’r sail ar gyfer adferiad diwydiannol yng Nghymru a gweithlu medrus a chynyddol gynhyrchiol. Byddai Coleg Glannau Dyfrdwy a ColegauCymru yn falch o ddarparu’r pwyllgor ag unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig bellach mewn perthynas â’r gyllideb neu gyfraniad ehangach y colegau i ddyfodol economaidd cyffredinol neu addysgiadol Cymru.

 

 



[1] Yn y papur hwn defnyddir y term’ Coleg AB’ neu ‘Coleg’  i gynnwys yr 17 Coleg AB a dau sefydliad AB.

[2] Crynodeb Llywodraeth Cymru o adroddiad UKCES Working Futures 2010-2020, Rhagfyr 2011, p.1 & 5.